2 Kings 17:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr ARGLWYDD, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na'r gorchymyn a orchmynnodd yr ARGLWYDD i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Maen nhw'n dal i ddilyn yr un hen arferion hyd heddiw. Dŷn nhw ddim wir yn parchu'r ARGLWYDD, nac yn ufudd i'r rheolau, gorchmynion, deddfau a gofynion gafodd eu rhoi i ddisgynyddion Jacob, y dyn wnaeth Duw roi'r enw Israel iddo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Hyd heddiw y maent yn dal at eu hen arferion. Nid addoli'r ARGLWYDD y maent, na gweithredu yn l y deddfau a'r arfer a'r gyfraith a'r gorchymyn a roes yr ARGLWYDD i feibion Jacob, a enwyd Israel.