2 Kings 17:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Asyria a gafodd fradwriaeth yn Hosea: canys efe a ddanfonasai genhadau at So brenin yr Aifft, ac ni ddanfonasai anrheg i frenin Asyria, fel y byddai efe arferol bob blwyddyn: am hynny brenin Asyria a gaeodd arno ef, ac a'i rhwymodd ef mewn carchardy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wedyn dyma frenin Asyria yn darganfod fod Hoshea yn cynllwynio yn ei erbyn. Roedd wedi anfon negeswyr at So, brenin yr Aifft, ac wedi gwrthod talu'r trethi blynyddol i Asyria. Y canlyniad oedd i frenin Asyria ei arestio a'i roi yn y carchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond darganfu brenin Asyria fod Hosea'n ei dwyllo, a'i fod wedi anfon cenhadau at So brenin yr Aifft, ac atal y deyrnged yr arferai ei thalu'n flynyddol i frenin Asyria; felly daliodd ef a'i garcharu.