2 Kings 18:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Er hynny dyma frenin Asyria yn anfon ei brif swyddog milwrol, ei brif gynghorydd, a phrif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, gyda byddin enfawr. Dyma nhw'n cyrraedd Jerwsalem a mynd i sefyll wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, sydd ar y ffordd i Faes y Pannwr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd brenin Asyria y cad-lywydd, y cadfridog a'r prif swyddog gyda byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia. Wedi iddynt ddringo i fyny i Jerwsalem, safasant wrth bistyll y llyn uchaf sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr, a galw am y brenin.