2 Kings 18:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta eu cachu ac yfed eu piso eu hunain.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond dywedodd y prif swyddog wrthynt, "Ai at eich meistr a chwi yma yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl? Onid hefyd at y dynion sydd ar y mur, ac a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu du373?r eu hunain?"