2 Kings 18:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r prif swyddog yn camu ymlaen, ac yn gweiddi'n uchel yn Hebraeg, “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, "Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria.