2 Kings 18:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Nes i mi ddyfod a'ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a'n gwared ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi — gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd, gwlad o olewydd, olew a mêl. Cewch fyw yno yn lle marw. “‘Peidiwch gadael i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nes imi ddyfod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad u375?d a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olewydd, olew a ml; a chewch fyw ac nid marw.' Peidiwch gwrando ar Heseceia yn eich hudo trwy ddweud, 'Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.'