2 Kings 18:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o'm llaw i?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ble oedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble oedd duwiau Seffarfaîm, Hena ac Ifa? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim, Hena ac Ifa? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?