2 Kings 18:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a'i galwodd hi Nehustan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n cael gwared â'r allorau lleol, malu'r colofnau cysegredig a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. A dyma fe hefyd yn dryllio'r sarff bres oedd Moses wedi gwneud, am fod pobl Israel yn llosgi arogldarth iddi a'i galw'n Nechwshtan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tynnodd ymaith yr uchelfeydd a dryllio'r colofnau a thorri'r pyst Asera, a malu'r sarff bres a wnaeth Moses; oherwydd hyd y dyddiau hynny bu'r Israeliaid yn arogldarthu iddi ac yn ei galw'n Nehustan.