2 Kings 19:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trwy law dy genhadau y ceblaist ti yr ARGLWYDD, ac y dywedaist, Â lliaws fy ngherbydau y dringais i uchelder y mynyddoedd, i ystlysau Libanus; a mi a dorraf uchelder ei gedrwydd ef, a'i ddewis ffynidwydd ef, af hefyd i'w lety eithaf, ac i goedwig ei ddoldir ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt ti wedi defnyddio dy negeswyr i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy dy weision fe geblaist yr Arglwydd, a dweud, "Gyda lliaws fy ngherbydau dringais yn uchel i gopa'r mynyddoedd, i bellterau Lebanon; torrais y praffaf o'i gedrwydd, a'r dewisaf o'i ffynidwydd; euthum i'w gwr uchaf, ei lechweddau coediog.