2 Kings 2:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Arhosodd Eliseus yn Jericho, nes iddyn nhw ddod yn ôl ato. A dyma fe'n dweud wrthyn nhw, “Wel? Wnes i ddim dweud wrthoch chi am beidio mynd?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Arhosodd Eliseus yn Jericho nes iddynt ddychwelyd; yna dywedodd wrthynt, "Oni ddywedais wrthych am beidio mynd?"