2 Kings 2:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Eliseus yn mynd at lygad y ffynnon a thaflu'r halen i mewn iddi. A dyma fe'n dweud, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Dw i'n puro'r dŵr yma. Fydd e ddim yn achosi marwolaeth nag anffrwythlondeb byth eto.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ddod ag ef ato, aeth at lygad y ffynnon a thaflu'r halen iddi a dweud, "Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Purais y dyfroedd hyn; ni ddaw angau na diffrwythdra oddi yno mwy."