2 Kings 2:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o'r ddinas, ac a'i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Eliseus o Jericho yn ôl i Bethel. Pan oedd e ar ei ffordd dyma griw o fechgyn ifanc yn dod allan o'r dre a dechrau gwneud hwyl am ei ben. Roedden nhw'n gweiddi, “Dos i ffwrdd, y moelyn! Dos i ffwrdd, y moelyn!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth i fyny oddi yno i Fethel, ac fel yr oedd yn mynd, daeth bechgyn bach allan o ryw dref a'i wawdio a dweud wrtho, "Dos i fyny, foelyn! Dos i fyny, foelyn!"