2 Kings 2:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg, Eliseus; canys yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i Jericho. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. Felly hwy a ddaethant i Jericho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd i Jericho. ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma nhw'n dod i Jericho.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Elias wrtho, "Eliseus, aros di yma, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon i Jericho." Dywedodd yntau, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant i Jericho.