2 Kings 2:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eleias a ddywedodd wrtho, Aros yma, atolwg; canys yr ARGLWYDD a'm hanfonodd i'r Iorddonen. Dywedodd yntau, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ac mai byw dy enaid dithau, nid ymadawaf â thi. A hwy a aethant ill dau rhagddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Elias yn dweud wrth Eliseus, “Aros di yma. Mae'r ARGLWYDD eisiau i mi fynd at yr Afon Iorddonen. ” Ond dyma Eliseus yn ateb, “Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a tithau'n fyw, wna i ddim dy adael di.” A dyma'r ddau yn mynd yn eu blaenau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Elias wrtho, "Aros di yma oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn f'anfon at yr Iorddonen." Dywedodd yntau, "Cyn wired bod yr ARGLWYDD yn fyw, a thithau, ni'th adawaf." Felly aethant ill dau.