2 Kings 2:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi iddynt fyned drosodd, Eleias a ddywedodd wrth Eliseus, Gofyn y peth a wnelwyf i ti, cyn fy nghymryd oddi wrthyt. A dywedodd Eliseus, Bydded gan hynny, atolwg, ddau parth o'th ysbryd di arnaf fi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl iddyn nhw groesi, dyma Elias yn gofyn i Eliseus, “Dwed wrtho i be ga i wneud i ti cyn i mi gael fy nghymryd oddi wrthot ti?” “Plîs gad i mi gael siâr ddwbl o dy ysbryd di,” meddai Eliseus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt groesi, dywedodd Elias wrth Eliseus, "Gofyn! Beth a wnaf iti cyn fy nghymryd oddi wrthyt?" Atebodd Eliseus, "Rhodder imi gyfran ddwbl o'th ysbryd."