2 Kings 20:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Heseceia a wrandawodd arnynt, ac a ddangosodd iddynt holl dŷ ei drysor, yr arian, a'r aur, a'r peraroglau, a'r olew gorau, a holl dŷ ei arfau, a'r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a'r nas dangosodd Heseceia iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Heseceia wrth ei fodd eu bod nhw wedi dod, a dangosodd ei drysordy iddyn nhw — yr arian, yr aur, y perlysiau, a'r olew persawrus. Dangosodd ei stordy arfau iddyn nhw hefyd, a phopeth arall yn ei stordai. Dangosodd bopeth yn ei balas a'i deyrnas gyfan iddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Croesawodd Heseceia hwy a dangos iddynt ei drysordy i gyd, yr arian a'r aur, a'r perlysiau a'r olew persawrus, a'i arfdy a phopeth oedd yn ei storfeydd. Nid oedd dim yn ei balas na'i deyrnas na ddangosodd Heseceia iddynt.