2 Kings 21:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn, a gwneuthur yn waeth na'r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o'i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae Manasse, brenin Jwda wedi gwneud pethau ffiaidd, ac wedi pechu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen. Mae wedi gwneud i bobl Jwda bechu hefyd, drwy addoli ei eilunod ffiaidd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Am i Manasse brenin Jwda wneud y ffieidd-dra hwn, a gweithredu'n waeth na'r Amoriaid oedd o'i flaen, ac arwain Jwda hefyd i bechu gyda'i eilunod,