2 Kings 22:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oherwydd hynny, wele, mi a'th gymeraf di ymaith at dy dadau, a thi a ddygir i'th fedd mewn heddwch, fel na welo dy lygaid yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn ei ddwyn ar y fan hon. A hwy a ddygasant air i'r brenin drachefn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Cei di farw a chael dy gladdu mewn heddwch. Fydd dim rhaid i ti fyw i weld y dinistr ofnadwy fydd yn dod ar y wlad yma.”’” A dyma'r dynion yn mynd â'r neges yn ôl i'r brenin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac am hynny casglaf di at dy hynafiaid, a dygir di i'r bedd mewn heddwch, ac ni wl dy lygaid y drwg a ddygaf ar y lle hwn.'" Dygasant hwythau'r ateb i'r brenin.