2 Kings 23:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr allorau hefyd, y rhai oedd ar nen ystafell Ahas, y rhai a wnaethai brenhinoedd Jwda, a'r allorau a wnaethai Manasse yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD, a ddistrywiodd y brenin, ac a'u bwriodd hwynt i lawr oddi yno, ac a daflodd eu llwch hwynt i afon Cidron.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n chwalu'r allorau oedd brenhinoedd Jwda wedi eu codi ar y to uwchben llofft Ahas, a'r allorau roedd Manasse wedi eu hadeiladu yn y ddwy iard yn y deml. Malodd nhw'n lwch mân a thaflu'r llwch i ddyffryn Cidron.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tynnodd i lawr yr allorau a wnaeth brenhinoedd Jwda ar do goruwchystafell Ahas, a'r allorau a wnaeth Manasse yn nau gyntedd tu375?'r ARGLWYDD; ac ar l eu dryllio yno, taflodd eu llwch i nant Cidron.