2 Kings 23:13 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y brenin hefyd a ddifwynodd yr uchelfeydd oedd ar gyfer Jerwsalem, y rhai oedd o'r tu deau i fynydd y llygredigaeth, y rhai a adeiladasai Solomon brenin Israel i Astoreth ffieidd‐dra'r Sidoniaid, ac i Cemos ffieidd‐dra'r Moabiaid, ac i Milcom ffieidd‐dra meibion Ammon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn chwalu'r allorau lleol paganaidd oedd i'r dwyrain o Jerwsalem ac i'r de o Fynydd y Llygredd, y rhai oedd wedi eu hadeiladu gan y Brenin Solomon i'r duwiau ffiaidd, Ashtart (duwies Sidon), Chemosh (duw Moab), a Milcom (duw pobl Ammon).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna halogodd y brenin yr uchelfeydd oedd gyferbyn Jerwsalem i'r de o Fynydd yr Olewydd, ac a adeiladwyd gan Solomon brenin Israel ar gyfer Astoreth, ffieiddbeth Sidon, a Chemos, ffieidd-beth Moab, a Milcom, ffieidd-dra'r Ammoniaid.