2 Kings 23:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr allor hefyd, yr hon oedd yn Bethel, a'r uchelfa a wnaethai Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, ie, yr allor honno a'r uchelfa a ddistrywiodd efe, ac a losgodd yr uchelfa, ac a'i malodd yn llwch, ac a losgodd y llwyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe hyd yn oed yn chwalu'r allor oedd Jeroboam fab Nebat wedi ei chodi yn Bethel (yr un wnaeth i Israel bechu). Tynnodd yr allor a'r man sanctaidd i lawr a'u llosgi. Malodd yr allor leol yn llwch mân a llosgi polion y dduwies Ashera.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ym Methel tynnodd i lawr yr allor a'r uchelfa a gododd Jeroboam fab Nebat, a barodd i Israel bechu. Llosgodd yr uchelfa a'i malu'n llwch, a llosgi'r pyst Asera.