2 Kings 23:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna efe a ddywedodd, Pa deitl yw hwn yr ydwyf fi yn ei weled? A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrtho, Bedd gŵr DUW, yr hwn a ddaeth o Jwda, ac a gyhoeddodd y pethau hyn a wnaethost ti i allor Bethel, ydyw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Beth ydy'r garreg fedd yna?” gofynnodd. A dyma bobl Bethel yn ateb, “Dyna fedd y proffwyd ddaeth o Jwda a proffwydo'n union beth rwyt ti wedi ei wneud ar allor Bethel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedyn gofynnodd, "Beth yw'r gofeb acw a welaf?" Atebodd pobl y ddinas ef, "Dyna fedd gu373?r Duw, a ddaeth o Jwda a rhagfynegi'r pethau hyn yr wyt ti wedi eu gwneud ag allor Bethel."