2 Kings 23:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Joseia hefyd a dynnodd ymaith holl dai yr uchelfeydd, y rhai oedd yn ninasoedd Samaria, y rhai a wnaethai brenhinoedd Israel i ddigio yr ARGLWYDD, ac a wnaeth iddynt yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethai efe yn Bethel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Joseia hefyd yn cael gwared â'r temlau ar allorau lleol oedd yn nhrefi Samaria. Brenhinoedd Israel oedd wedi eu codi nhw, ac wedi digio'r ARGLWYDD drwy wneud hynny. Gwnaeth Joseia'r un peth i'r allorau hynny ag roedd wedi ei wneud i'r allor leol yn Bethel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn nhrefi Samaria dinistriodd Joseia holl demlau'r uchelfeydd a wnaeth brenhinoedd Israel i ddigio'r ARGLWYDD. Gwnaeth iddynt yno yn hollol fel y gwnaeth ym Methel.