2 Kings 23:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a aeth i fyny i dŷ yr ARGLWYDD, a holl wŷr Jwda, a holl drigolion Jerwsalem gydag ef, yr offeiriaid hefyd, a'r proffwydi, a'r holl bobl o fychan hyd fawr: ac efe a ddarllenodd, lle y clywsant hwy, holl eiriau llyfr y cyfamod, yr hwn a gawsid yn nhŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n mynd i'r deml, ac roedd pobl Jwda a Jerwsalem, yr offeiriaid a'r proffwydi gydag e. Roedd pawb yno, o'r ifancaf i'r hynaf. Yna dyma sgrôl yr ymrwymiad oedd wedi ei darganfod yn y deml yn cael ei darllen yng nghlyw pawb.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac aeth i fyny i'r deml, a holl bobl Jwda a thrigolion Jerwsalem gydag ef, a hefyd yr offeiriaid a'r proffwydi a phawb o'r bobl, bach a mawr. Yna darllenodd yn eu clyw holl gynnwys y llyfr cyfamod a gaed yn nhu375?'r ARGLWYDD.