2 Kings 23:21 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a orchmynnodd i'r holl bobl, gan ddywedyd, Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich DUW, fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr y cyfamod hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin Joseia yn gorchymyn i'r bobl, “Dych chi i ddathlu Pasg yr ARGLWYDD eich Duw, yn union fel mae'n dweud yn sgrôl yr ymrwymiad yma.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd y brenin orchymyn i'r holl bobl, "Gwnewch Basg i'r ARGLWYDD eich Duw, fel sydd wedi ei ysgrifennu yn y llyfr cyfamod hwn."