2 Kings 23:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y swynyddion hefyd, a'r dewiniaid, a'r delwau, a'r eilunod, a'r holl ffieidd‐dra, y rhai a welwyd yng ngwlad Jwda, ac yn Jerwsalem, a dynnodd Joseia ymaith: fel y cyflawnai efe eiriau y gyfraith; y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr a gafodd Hilceia yr offeiriad yn nhŷ yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Joseia hefyd wedi cael gwared â phawb oedd yn ymhél ag ysbrydion ac yn siarad â'r meirw, pob eilun-ddelw teuluol a'r eilunod ffiaidd eraill oedd i'w gweld yn Jwda a Jerwsalem. Gwnaeth ei orau glas i gadw gofynion y gyfraith oedd ar y sgrôl roedd Chilceia'r offeiriad wedi dod o hyd iddi yn y deml.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dileodd Joseia y swynwyr a'r dewiniaid, y delwau a'r eilunod, a phob ffieidd-dra tebyg a welwyd yng ngwlad Jwda ac yn Jerwsalem. Gwnaeth hyn er mwyn cadw geiriau'r gyfraith a ysgrifennwyd yn y llyfr a ddarganfu'r offeiriad Hilceia yn y deml.