2 Kings 23:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint mawr, trwy yr hwn y llidiodd ei ddicllonedd ef yn erbyn Jwda, oherwydd yr holl ddicter trwy yr hwn y digiasai Manasse ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto, roedd yr ARGLWYDD yn dal yn ddig gyda Jwda; roedd yr holl bethau oedd Manasse wedi eu gwneud wedi ei ddigio fe gymaint.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er hynny ni throdd yr ARGLWYDD oddi wrth angerdd ei ddigofaint mawr yn erbyn Jwda o achos yr holl bethau a wnaeth Manasse i'w ddigio.