2 Kings 23:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr ARGLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a'i dystiolaethau, a'i ddeddfau, â'i holl galon, ac â'i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A'r holl bobl a safodd wrth y cyfamod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r brenin yn sefyll wrth y piler ac addo o flaen yr ARGLWYDD, i wneud ei orau glas i ddilyn yr ARGLWYDD a cadw ei orchmynion, ei ofynion, a'i reolau. Roedd yn addo cadw amodau'r ymrwymiad oedd yn y sgrôl. A dyma'r bobl yn sefyll i ddangos eu bod yn cytuno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Safodd y brenin wrth y golofn a gwnaeth gyfamod o flaen yr ARGLWYDD, i ddilyn yr ARGLWYDD ac i gadw ei orchmynion a'i dystiolaethau a'i ddeddfau 'i holl galon ac 'i holl enaid, ac i gyflawni holl eiriau'r cyfamod a ysgrifennwyd yn y llyfr hwn. A safodd yr holl bobl wrth y cyfamod.