2 Kings 23:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a'i dygasant ef i Jerwsalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a'i heneiniasant ef, ac a'i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma ei weision yn mynd â'i gorff yn ôl o Megido i Jerwsalem mewn cerbyd rhyfel, a cafodd ei gladdu yn ei fedd ei hun. Yna dyma bobl y wlad yn cymryd Jehoachas, mab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cludodd ei weision ef yn farw o Megido, a'i ddwyn i Jerwsalem a'i gladdu yn ei feddrod. Dewisodd pobl y wlad Jehoahas fab Joseia, a'i eneinio'n frenin yn lle ei dad.