2 Kings 23:4 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r brenin a orchmynnodd i Hilceia yr archoffeiriad, ac i'r offeiriaid o'r ail radd, ac i geidwaid y drws, ddwyn allan o deml yr ARGLWYDD yr holl lestri a wnaethid i Baal, ac i'r llwyn, ac i holl lu'r nefoedd: ac efe a'u llosgodd hwynt o'r tu allan i Jerwsalem, ym meysydd Cidron, ac a ddug eu lludw hwynt i Bethel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i Chilceia'r archoffeiriad a'r offeiriaid cynorthwyol a'r porthorion i gymryd allan o'r deml bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio i addoli Baal a'r dduwies Ashera a'r sêr. A dyma fe'n llosgi'r cwbl y tu allan i Jerwsalem ar gaeau teras Cidron, ac yna mynd â'r lludw i Bethel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gorchmynnodd y brenin i'r archoffeiriad Hilceia, a'r is-offeiriaid, a cheidwaid y drws symud allan o deml yr ARGLWYDD yr holl offer a wnaed ar gyfer Baal ac Asera a holl lu'r nef; a llosgwyd hwy y tu allan i Jerwsalem ar lethrau Cidron, a mynd 'u llwch i Fethel.