2 Kings 23:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddiswyddodd yr offeiriaid a osodasai brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd, yn ninasoedd Jwda, ac yn amgylchoedd Jerwsalem: a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal, i'r haul, ac i'r lleuad, ac i'r planedau, ac i holl lu'r nefoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n sacio'r offeiriaid ffals oedd wedi eu penodi gan frenhinoedd Jwda i losgi arogldarth ar yr allorau lleol yn nhrefi Jwda ac o gwmpas Jerwsalem (llosgi arogldarth i Baal, ac i'r haul, lleuad, planedau a sêr).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Diswyddodd yr offeiriaid gau a osododd brenhinoedd Jwda i arogldarthu yn yr uchelfeydd yn nhrefi Jwda a chyffiniau Jerwsalem, a'r rhai oedd yn arogldarthu i Baal a'r haul a'r lloer a'r planedau a holl lu'r nef.