2 Kings 23:6 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Efe a ddug allan hefyd y llwyn o dŷ yr ARGLWYDD, i'r tu allan i Jerwsalem, hyd afon Cidron, ac a'i llosgodd ef wrth afon Cidron, ac a'i malodd yn llwch, ac a daflodd ei lwch ar feddau meibion y bobl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n symud polyn y dduwies Ashera o'r deml, a mynd ag e allan o Jerwsalem i ddyffryn Cidron, a'i losgi yno. Wedyn malu beth oedd ar ôl yn llwch mân, a taflu'r llwch i'r fynwent gyhoeddus.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dygodd byst Asera allan o du375?'r ARGLWYDD i lawr i nant Cidron y tu allan i Jerwsalem, a'i llosgi yno, a'i malu'n llwch a thaenu'r llwch yn y fynwent gyffredin.