2 Kings 24:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ARGLWYDD a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o'r Caldeaid, a thorfoedd o'r Syriaid, a thorfoedd o'r Moabiaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a'u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i'w dinistrio hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r ARGLWYDD yn anfon grwpiau o filwyr o Babilon, Syria, Moab ac Ammon i ymosod ar Jwda. A dyma nhw'n dinistrio'r wlad fel roedd yr ARGLWYDD wedi rhybuddio trwy ei weision y proffwydi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd yr ARGLWYDD finteioedd o Galdeaid ac o Syriaid a Moabiaid ac Ammoniaid i ymosod ar Jwda a'i difa, yn l yr hyn yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei ddweud trwy ei weision y proffwydi.