2 Kings 25:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn penodi Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan), yn llywodraethwr dros y bobl roedd wedi eu gadael ar ôl yng ngwlad Jwda.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Penododd Nebuchadnesar brenin Babilon Gedaleia fab Ahicam, fab Saffan dros y bobl a adawyd ganddo yn nhir Jwda.