2 Kings 25:27 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, Efilmerodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o'r carchardy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jehoiachin, brenin Jwda, wedi bod yn garcharor am dri deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Efil-merodach yn frenin ar Babilon. Ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis y flwyddyn honno dyma Efil-merodach yn rhyddhau Jehoiachin o garchar.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yn yr ail flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethgludiad Jehoiachin brenin Jwda, ar y seithfed ar hugain o'r deuddegfed mis, gwnaeth Efil-merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn y daeth i'r orsedd, ffafr Jehoiachin brenin Jwda, a'i ryddhau o garchar.