2 Kings 25:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn y pumed mis, ar y seithfed dydd o'r mis, honno oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon, y daeth Nebusaradan y distain, gwas brenin Babilon, i Jerwsalem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhyw fis yn ddiweddarach, dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, un o swyddogion pwysica brenin Babilon, yn cyrraedd Jerwsalem (Roedd hyn ar y degfed diwrnod o'r pumed mis, a Nebwchadnesar wedi bod yn frenin Babilon ers un deg naw o flynyddoedd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y seithfed dydd o'r pumed mis yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i'r Brenin Nebuchadnesar brenin Babilon, daeth Nebusaradan capten y gwarchodlu, swyddog brenin Babilon, i Jerwsalem.