2 Kings 3:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni'th welswn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Eliseus yn ateb, “Yr ARGLWYDD holl-bwerus dw i'n ei wasanaethu. Mor sicr â'i fod e'n fyw, fyddwn i'n cymryd dim sylw ohonot ti o gwbl oni bai am y parch sydd gen i at y Brenin Jehosaffat.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Eliseus, "Cyn wired bod ARGLWYDD y Lluoedd yn fyw, yr hwn yr wyf yn ei wasanaethu, oni bai fy mod yn parchu Jehosaffat brenin Jwda, ni fyddwn yn talu sylw iti nac yn edrych arnat.
Recommended Reading