2 Kings 4:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr ARGLWYDD: a'r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma wraig un oedd yn aelod o'r urdd o broffwydi yn dod at Eliseus a pledio am ei help. “Roedd fy ngŵr i yn un o dy ddynion di,” meddai, “ac fel ti'n gwybod, roedd e'n ddyn duwiol. Ond mae e wedi marw, a nawr mae rhywun roedd e mewn dyled iddo wedi dod i gasglu'r ddyled, ac mae am gymryd fy nau fab yn gaethweision.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Apeliodd gwraig un o'r proffwydi at Eliseus a dweud, "Bu farw dy was, fy ngu373?r, ac yr oedd yn ddyn duwiol, fel y gwyddost; ac y mae'r echwynnwr wedi dod i gymryd fy nau blentyn yn gaethion iddo."