2 Kings 4:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd hefyd wrtho, Dywed yn awr wrthi hi, Wele, ti a ofelaist trosom ni â'r holl ofal yma; beth sydd i'w wneuthur erot ti? a oes a fynnych di ei ddywedyd wrth y brenin, neu wrth dywysog y llu? Hithau a ddywedodd, Yng nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Eliseus wedi gofyn iddo ddweud wrthi, “Ti wedi mynd i'r holl drafferth yma. Be allwn ni ei wneud i ti? Alla i ddweud gair da ar dy ran di wrth y brenin, neu wrth bennaeth y fyddin?” Ond dyma hi'n ateb, “Na, mae'r teulu o'm cwmpas i, ac mae gen i bopeth dw i angen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
dywedodd Eliseus wrtho, "Dywed wrthi, 'Dyma ti wedi mynd i'r holl drafferth yma er ein mwyn; beth sydd i'w wneud drosot ti? A oes eisiau dweud gair drosot wrth y brenin neu wrth bennaeth y fyddin?'" Ond dywedodd hi: "Ymysg fy nhylwyth yr wyf fi'n byw."