2 Kings 4:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd, Pob peth yn dda.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Pam wyt ti angen mynd i'w weld e heddiw?” meddai'r gŵr. “Dydy hi ddim yn Ŵyl y lleuad newydd nac yn Saboth.” “Paid poeni, mae popeth yn iawn,” meddai.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd ef, "Pam yr ei di ato heddiw? Nid yw'n newydd-loer nac yn saboth." "Mae popeth yn iawn," meddai hithau.