2 Kings 4:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr DUW i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr DUW hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac i ffwrdd â hi i Fynydd Carmel i weld y proffwyd. Gwelodd Eliseus hi'n dod o bell, a dyma fe'n dweud wrth Gehasi ei was, “Edrych, y wraig o Shwnem sydd acw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth ar ei thaith, a dod at u373?r Duw ym Mynydd Carmel; a phan welodd gu373?r Duw hi'n dod, dywedodd wrth ei was Gehasi, "Dacw'r Sunamees fan draw;