2 Kings 4:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a'i lygaid ar ei lygaid ef, a'i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma fe'n mynd at y plentyn a gorwedd arno, gan roi ei geg ar geg y plentyn, ei lygaid ar ei lygaid a'i ddwylo ar ei ddwylo. Dyma fe'n ymestyn drosto nes i gorff y plentyn dwymo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna aeth at y plentyn a gorwedd drosto, a rhoi ei geg ar ei geg, a'i lygaid ar ei lygaid, a'i ddwylo ar ei ddwylo, ac ymestyn drosto nes i gnawd y plentyn gynhesu.