2 Kings 4:38 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna'r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Eliseus yn ôl i Gilgal, ac roedd yna newyn yn y wlad. Roedd aelodau'r urdd o broffwydi yn ymweld ag Eliseus, a dyma fe'n dweud wrth ei was, “Rho grochan mawr ar y tân i ferwi cawl iddyn nhw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dychwelodd Eliseus i Gilgal pan oedd newyn yn y wlad. Yr oedd nifer o broffwydi dan ei ofal, a dywedodd wrth ei was, "Gosod y crochan mawr ar y tn a berwa gawl i'r proffwydi."