2 Kings 4:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac un a aeth allan i'r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a'u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma un o'r proffwydi yn mynd allan i gasglu llysiau. Daeth ar draws rhyw blanhigyn gwyllt tebyg i winwydden, a chasglu cymaint o'r ffrwyth ag y gallai ei gario yn ei glogyn. Daeth yn ôl a'u torri'n fân ac yna eu taflu i'r crochan cawl, er nad oedd yn gwybod beth oedden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd un ohonynt wedi mynd allan i'r maes i gasglu llysiau, a chafodd winwydden wyllt, a chasglodd goflaid llawn o rawn gwylltion oddi arni, heb wybod beth oeddent, a dod a'u bwrw i'r crochan cawl.