2 Kings 4:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a'i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro roedd Eliseus yn pasio heibio Shwnem. Roedd yna wraig bwysig yn byw yno, ac dyma hi'n mynnu bod Eliseus yn bwyta gyda hi. Felly bob tro roedd Eliseus yn mynd heibio Shwnem roedd e'n arfer galw heibio am bryd o fwyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhyw ddiwrnod aeth Eliseus heibio i Sunem, lle'r oedd gwraig fonheddig; a bu hi'n daer arno i gymryd bwyd yno. Felly bob tro y byddai'n dod heibio, byddai'n troi i mewn yno i fwyta.