2 Kings 5:11 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr ARGLWYDD ei DDUW, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma Naaman yn mynd i ffwrdd, wedi gwylltio. “Roeddwn i'n disgwyl iddo ddod allan ata i, a sefyll a gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw, symud ei law dros y man lle mae'r afiechyd, a'm gwella i.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ffromodd Naaman, ac aeth i ffwrdd a dweud, "Meddyliais y byddai o leiaf yn dod allan a sefyll a galw ar enw'r ARGLWYDD ei Dduw, a symud ei law dros y fan, a gwella'r gwahanglwyf.