2 Kings 5:17 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Naaman a ddywedodd, Oni roddir yn awr i'th was lwyth cwpl o fulod o ddaear? canys ni offryma dy was mwyach boethoffrwm nac aberth i dduwiau eraill, ond i'r ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y diwedd dyma Naaman yn gofyn, “Os gwnei di ddim derbyn rhodd, yna plîs wnei di roi llwyth o bridd i mi — digon i ddau ful ei gario. Achos o hyn ymlaen fydda i ddim yn cyflwyno offrwm ac aberth i unrhyw dduw arall, dim ond i'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac er pwyso arno i gymryd, gwrthod a wnaeth. Dywedodd Naaman, "Os na chymeri, ynteu, rhodder llwyth cwpl o fulod o bridd i mi, dy was, gan na fyddaf ar l hyn yn offrymu poethoffrwm nac aberth i'r un duw arall ond i'r ARGLWYDD.