2 Kings 5:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn y peth hyn yr ARGLWYDD a faddeuo i'th was; pan elo fy arglwydd i dŷ Rimmon i addoli yno, a phwyso ar fy llaw i, a phan ymgrymwyf finnau yn nhŷ Rimmon; pan ymgrymwyf yn nhŷ Rimmon, maddeued yr ARGLWYDD i'th was yn y peth hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae yna un peth bach dw i'n gobeithio y bydd yr ARGLWYDD yn ei faddau i mi: Pan fydd fy meistr, y brenin, yn mynd i deml Rimmon i addoli, bydd yn pwyso ar fy mraich i. Bydd rhaid i mi ymgrymu o flaen Rimmon pan fydd e'n gwneud hynny. Gobeithio bydd yr ARGLWYDD yn maddau i mi am hyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn unig maddeued yr ARGLWYDD imi pan fydd fy meistr yn mynychu teml Rimmon i addoli yno, ac yn pwyso ar fy llaw, byddaf finnau'n moesymgrymu yn nheml Rimmon pan fydd ef yn ymgrymu yno. Maddeued yr ARGLWYDD i'th was am y peth hwn."