2 Kings 5:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Syriaid a aethent allan yn finteioedd, ac a gaethgludasent o wlad Israel lances fechan; a honno oedd yn gwasanaethu gwraig Naaman.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Un tro pan oedd milwyr Syria yn ymosod ar Israel, roedden nhw wedi cymryd merch ifanc yn gaeth. Roedd hi'n gweithio fel morwyn i wraig Naaman.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddent ar gyrch yn nhir Israel cipiodd y Syriaid eneth ifanc a'i dwyn i weini ar wraig Naaman.