2 Kings 5:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a'u rhoddodd ar ddau o'i weision, i'w dwyn o'i flaen ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ar bob cyfri,” meddai Naaman, “gad i mi roi dwywaith hynny i ti.” Roedd yn mynnu, a dyma fe'n rhoi chwe deg cilogram o arian mewn dau fag, gyda dau set o ddillad. Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i ddau was i'w cario i Gehasi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Naaman, "Ar bob cyfrif; cymer ddwy dalent." Bu'n daer arno; clymodd ddwy dalent mewn dwy god, a'u rhoi gyda dau br o ddillad i ddau o'i weision i'w cario o'i flaen.